logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi

Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi
ond dadlau rhin dy aberth di,
a’th fod yn galw: clyw fy nghri,
‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod.

Dof fel yr wyf, ni thâl parhau
i geisio cuddio unrhyw fai;
ond gwaed y groes all fy nglanhau:
‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod.

Dof fel yr wyf, er ofnau lu,
a gallu y tywyllwch du
yn curo arnaf o bob tu;
‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod.

Dof fel yr wyf, pob croeso gaf
a phob ymgeledd gan fy Naf;
ac ar d’addewid pwyso wnaf;
‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod.

Dof fel yr wyf, syrthiodd i’r llawr
bob cadwyn gref, ‘rwyf finnau nawr
yn eiddo i’r Gwaredwr mawr;
‘rwy’n dod, Oen Duw ‘rwy’n dod.

Dof fel yr wyf, caf brofi’n llawn
dy gariad – O anhraethol ddawn! –
a chanaf mwyach am yr Iawn;
‘rwy’n dod, Oen Duw, ‘rwy’n dod.

CHARLOTTE ELLIOTT 1789-1871 (Just as I am without one plea) cyf ELIZA EVANS, 1852-1920

(Caneuon Ffydd 765)

PowerPoint