logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Doethineb perffaith Duw y Tad

Doethineb perffaith Duw y Tad
Ddatguddir drwy’r bydysawd maith.
Pob peth a grewyd gan Ei lais
A gaiff ei gynnal gan E’n barhaus.
Fe ŵyr gyfrinach yr holl sêr,
A thrai a llanw’r moroedd mawr;
Gyrra’r planedau ar eu taith
A thry y ddaear i wneud ei gwaith.

Doethineb anghymharol Duw
A lywia lwybrau dynol ryw;
Ei air yn llusern gwiw i’n traed
A’i Ysbryd Glân yn ein harwain ‘mlaen.
Ac O! ddirgelwch mawr y groes,
Duw’n dioddef drosom angau loes;
Drwy ffydd yng Nghrist daw’r ffôl yn ddoeth
A rhont ogoniant i Dduw drwy’u hoes.

Rho im ddoethineb, ddwyfol Iôr,
I ganlyn ac i garu’r Oen,
A dysg im dderbyn yn ddi-oed
Yr haul a’r glaw o dy sanctaidd law.
Pob edau tywyll sydd â’i lle
Yng ngwead cyflawn gras y Ne’;
Ynghanol stormydd blin a du,
Fe ymostyngaf i’th ‘wyllys Di.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Sian Jenkins, The perfect wisdom of our God: Stuart Townend
Hawlfraint © 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk
Defnyddir trwy ganiatâd

PowerPoint