logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Does gyffelyb iddo ef

‘Does gyffelyb iddo ef
ar y ddaear, yn y nef;
trech ei allu, trech ei ras
na dyfnderau calon gas,
a’i ffyddlondeb sydd yn fwy
nag angheuol, ddwyfol glwy’.

Caned cenedlaethau’r byd
am ei enw mawr ynghyd;
aed i gyrrau pella’r ne’,
aed i’r dwyrain, aed i’r de;
bloeddied moroedd gyda thir
ddyfnder iachawdwriaeth bur.

Na foed undyn is y rhod
heb ddatseinio i maes ei glod;
na foed neb is awyr las
heb gael prawf o’i nefol ras;
doed y ddaear fawr yn gron,
yfent ddŵr y ffynnon hon.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 370; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 411)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015