logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

‘Does arnaf eisiau yn y byd

‘Does arnaf eisiau yn y byd
Ond golwg ar dy haeddiant drud,
A chael rhyw braw o’i nefol rin,
I ‘mado’n lân â mi fy hun.

Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud
Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd,
Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn,
‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn.

O flaen y drugareddfa fawr
Yn trengi wrth dy draed i lawr,
Gwêl y pechadur duaf gaed
Yn griddfan am rinweddau’r gwaed.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint