logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dod ar fy mhen dy sanctaidd law

Dod ar fy mhen dy sanctaidd law,
O dyner Fab y Dyn;
mae gennyt fendith i rai bach
fel yn dy oes dy hun.

Wrth feddwl am dy gariad gynt
o Fethlehem i’r groes
mi garwn innau fod yn dda
a byw er mwyn oes.

Gwna fi yn addfwyn fel tydi
wrth bawb o’r isel rai;
gwna fi yn hoff o wrando cwyn
a hoff o faddau bai.

Dod i mi galon well bob dydd
a’th ras yn fodd i fyw
fel bo i eraill drwof fi
adnabod cariad Duw.

EIFION WYN, 1867-1926

(Caneuon Ffydd 681)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015