logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Distewch, cans mae presenoldeb Crist, y sanctaidd Un, gerllaw;

Distewch, cans mae presenoldeb Crist, y sanctaidd Un, gerllaw;
dewch, plygwch ger ei fron mewn dwfn, barchedig fraw:
dibechod yw efe, lle saif mae’n sanctaidd le;
distewch, cans mae presenoldeb Crist, y sanctaidd Un, gerllaw.

Distewch, cans gogoniant Crist ei hun o’n cylch lewyrcha’n gry’;
fe lysg â sanctaidd dân, mawr ei ysblander fry:
brawychus yw ei nerth, Breswylydd mawr y berth;
distewch, cans gogoniant Crist ei hun o’n cylch lewyrcha’n gry’.

Distewch, cans mae nerth yr Arglwydd Iôr yn symud yn ein plith;
daw i’n hiacháu yn awr, gweinydda’i ras fel gwlith:
fe glyw ein hegwan lef, drwy ffydd derbyniwch ef;
distewch, cans mae nerth yr Arglwydd Iôr yn symud yn ein plith.

DAVID J. EVANS (Be Still for the presence of the Lord) cyf. R. GLYN JONES
Hawlfraint © 1986 Kingsway’s Thankyou Music, PO. Box 75, Eastboume BN23 6NW Defnyddiwyd trwy ganiatâd

(Caneuon Ffydd 600, Grym Mawl 1: 16)

PowerPoint