logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Disgyn, Iesu, o’th gynteddoedd

Disgyn, Iesu, o’th gynteddoedd
lle mae moroedd mawr o hedd;
gwêl bechadur sydd yn griddfan
ar ymylon oer y bedd:
rho im brofi
pethau nad adnabu’r byd.

Rho oleuni, rho ddoethineb,
rho dangnefedd fo’n parhau,
rho lawenydd heb ddim diwedd,
rho faddeuant am bob bai;
triged d’Ysbryd
yn ei demel dan fy mron.

Ynot mae fy iachawdwriaeth,
Ynteu’n wir mi lwfwrhawn;
Ac mae’r poenau a ddioddefaist
Ar Galfaria’n berffaith Iawn
Dros bechodau
Pechaduriaid dua’u lliw.

Ac i’r ffynnon a agorwyd
Yn dy ystlys ar y pren
Yr wy’n dod, â’m gwisg yn aflan,
Yno i’w channu’n awr yn wen:
Mi ddof allan,
Fel yr eira ar y bryn.

WILLIAM WILLLAMS, 1717-91

(Penillion 1 a 2 – Caneuon Ffydd 575; Penillion 1,2, 3 a 4 – Y Llawlyfr Moliant Newydd: 491)

PowerPoint, 1 a 2 PowerPoint 1-4