logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Diolch am emyn: Am eiriau wedi’u plethu’n dynn

Diolch am emyn

Am eiriau wedi’u plethu’n dynn
Mewn emyn, rhoddwn foliant.
Am ddawn y bardd, a chrefftwaith hwn,
Fe ganwn er d’ogoniant.

Diolchwn am emynau lu
Fu’n canu am dy gariad;
Trwy ddethol gair, yn gelfydd iawn,
Cyd-rannu gawn ein profiad.

Ac mewn priodas gair a chân,
Cawn hafan o’n pryderon.
Fe gawn mewn emyn, fel mewn salm
Eli dry’n falm i’r galon.

Am eiriau beirdd yr awen gynt
Fu’n canu drwy’r canrifoedd;
Am waddol deg i ni a’n plant,
Rhown foliant yn oes oesoedd.

Aled Lloyd Davies, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

Download PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 17, 2016