logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dim ond trwy ras cawn fynediad

Dim ond trwy ras cawn fynediad,
Dim ond trwy ras ‘down o’th flaen;
Nid am in haeddu dy gariad,
Deuwn drwy waed pur yr Oen.
Ti sy’n ein tywys ni atat,
Cawn ddod ger dy fron;
Ti sy’n ein galw i’th gwmni,
A down trwy dy ras yn llon,
Down trwy dy ras yn llon.

Os creffi ar anwireddau pwy a saif?
Ond fe ddisgwyliaf, gobeithiaf yn awr yn dy Air.

(Grym Mawl 2: 107)

Gerrit Gufstafson: Only by Grace, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1990 Integrity’s Hosanna! Music.
Gweinyddir gan Kingsway’s Thankyou Music.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015