logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dewch, hen ac ieuainc, dewch

Dewch, hen ac ieuainc, dewch
at Iesu, mae’n llawn bryd;
rhyfedd amynedd Duw
ddisgwyliodd wrthym cyd:
aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau;
mae drws trugaredd heb ei gau.

Dewch, hen wrthgilwyr trist,
at Iesu Grist yn ôl;
mae’i freichiau nawr ar led,
fe’ch derbyn yn ei gôl:
mae Duw yn rhoddi eto’n hael
drugaredd i droseddwyr gwael.

MORGAN RHYS, 1716-79

(Caneuon Ffydd 179)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015