logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dewch, ffyddlon rai, neséwch mewn hedd

Dewch, ffyddlon rai, neséwch mewn hedd,
mae yma wledd arbennig
o basgedigion wedi eu trin,
a gloyw win puredig.

Amgylchwch heddiw’r sanctaidd fwrdd,
cewch gwrdd â’ch Prynwr Iesu,
a llawnder o gysuron da
sydd yma i’ch croesawu.

Rhag clwyfau enaid o bob rhyw
gan Dduw cewch feddyginiaeth,
a rhag gelynion cryfion, cas,
drwy ras cewch waredigaeth.

Fe selir i chwi heddiw ‘nghyd
y golud anchwiliadwy,
a dygir chwi ar fyr yn llon
i Seion i’w meddiannu.

PHYLIP PUGH, 1679-1760

(Caneuon Ffydd 638)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015