logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dewch, canwn nawr

Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw,
Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw,
Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw,
Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw!

Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw,
Bloeddiwn fawl i’r Arglwydd, sef Craig ein hiachawdwriaeth!
Dewch, canwn nawr yn llawen i’n Duw,
Bloeddiwn fawl i’r Arglwydd, sef Craig ein hiachawdwriaeth!

Down i’w bresenoldeb Ef â diolch,
Rhown wrogaeth a chanwn ei fawl;
Canys mawr yw’n Duw, Ef yw’n Harglwydd byw,
Ef yw’r Brenin, Ef yw’n Duw!

Dewch yn llu, addolwn ac ymgrymwn,
Plygwn liniau yn awr ger ei fron;
Canys Ef yw’n Duw, Ef yw’n Harglwydd byw,
Ef yw’r Brenin, Ef yw’n Duw!

(Grym Mawl 1: 24)

Brent Chambers: Come let us sing, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © Scripture in Song/Thankyou Music 1985

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015