logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dewch, bawb sy’n caru enw’r Oen

Dewch, bawb sy’n caru enw’r Oen,
deffrown alluoedd cân;
i Frenin calon saint rhown fawl,
ymgrymwn oll o’i flaen.

Ein Brenin yw, a’n Ceidwad mawr,
ein Priod mwyn, di-lyth;
gogoniant hwn a leinw’r nef,
ei deyrnas bery byth.

Doed holl dafodau’r byd â chlod
di-baid i’n Brenin glân,
pan fyddo Crist yn destun mawl
pwy ddichon wrthod cân?

1, 2 ANNE STEELE, 1717-78, 3 SAMUEL STENNETT, 1727-95 (Come ye that love the Saviour’s name)
efel. GOMER, 1773-1825

(Caneuon Ffydd 8)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan
  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015