logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deuwn yn llon at orsedd Duw

Deuwn yn llon at orsedd Duw,
ein Ceidwad digyfnewid yw;
gwyrth ei drugaredd sydd o hyd
ar waith ynghanol helbul byd.

Gwir yw y gair, fe ddeil yr Iôr
i agor llwybyr drwy y môr;
lle byddo ffydd fe ddyry ef
ddŵr pur o’r graig a manna o’r nef.

Deil i waredu, heb lesgau,
ei blant rhag llewod yn y ffau;
fe’n ceidw eto rhag pob nam
yn ffwrn y byd a’i ysol fflam.

Fe ddyry Duw, lle caffo ffydd,
ar ôl pob croes ryw drydydd dydd;
daw at drueiniaid fel o’r blaen
o’i gariad mawr i dreiglo’r maen.

R. GWILYM HUGHES, 1910-97 © Meirion Hughes (Defnyddiwyd trwy ganiatâd)

(Caneuon Ffydd: 09)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydant

  • Gwenda Jenkins,
  • January 21, 2016