logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deuwn ger dy fron yn awr

Deuwn ger dy fron yn awr
i’th glodfori, Iesu mawr;
diolch iti am yr haf
a ffrwythau y cynhaeaf.

Rhoddwn iti foliant glân,
diolch, Arglwydd, yw ein cân;
clod a mawl a fo i ti
am gofio’r byd eleni.

Diolch iti, Arglwydd Dduw,
am gynhaliaeth popeth byw,
am gynhaeaf yn ei bryd
i borthi plant yr hollfyd.

Ffrwyth y berllan, cnwd yr ardd,
ŷd y meysydd, blodau hardd;
diolch iti, Arglwydd da,
am ddiod ac am fara.

Diolch am y ford mor llawn
yn y bore a’r prynhawn:
rhoddwn, Iôr, ein mawl i ti,
O Arglwydd pob daioni.

GOMER M. ROBERTS, 1904-93  © Mair Edwards. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 138)

PowerPoint