logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deuwch, hil syrthiedig Adda

Deuwch, hil syrthiedig Adda,
Daeth y Jiwbil fawr o hedd:
Galw’r ydys bawb o’r enw
I fwynhau tragwyddol wledd;
Bwrdd yn llawn, yma gawn,
O foreuddydd hyd brynhawn.

Ceisiwch wisgoedd y briodas,
Gwisgoedd hyfryd, hardd eu lliw;
Nid oes enw teilwng arnynt,
Ond cyfiawnder pur fy Nuw;
Lliain main ydyw’r rhain,
Sydd yn cuddio pob rhyw staen.

Dyma wledd y cewch ddanteithion,
Yma cewch faddeuant rhad;
Yma cewch chwi brofi cariad –
Hedd yn nofio yn y gwaed:
Dewch yn awr, dyrfa fawr,
Ac eisteddwch yma i lawr.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 450)

PowerPoint