logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad

Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad,
draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad;
deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad
lle cawn lawenhau.

Nid yw’r ffordd yn bell draw i dŷ fy Nhad,
draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad;
nid yw’r ffordd yn bell draw i dŷ fy Nhad
lle cawn lawenhau.

Y mae lle i bawb draw yn nhŷ fy Nhad,
draw yn nhŷ fy Nhad, draw yn nhŷ fy Nhad;
y mae lle i bawb draw yn nhŷ fy Nhad
lle cawn lawenhau.

Byddwn oll yn rhydd draw yn nhŷ fy Nhad,
draw yn nhŷ fy Nhad, draw yn nhŷ fy Nhad;
byddwn oll yn rhydd draw yn nhŷ fy Nhad
lle cawn lawenhau.

Cawn ei roddion rhad draw yn nhŷ fy Nhad,
draw yn nhŷ fy Nhad, draw yn nhŷ fy Nhad;
cawn ei roddion rhad draw yn nhŷ fy Nhad
lle cawn lawenhau.

Iesu Grist yw’r ffordd draw i dŷ fy Nhad,
draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad;
Iesu Grist yw’r ffordd draw i dŷ fy Nhad
lle cawn lawenhau.

Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad,
draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad;
deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad
lle cawn lawenhau.

ANAD. cyf. HARRI WILLIAMS, 1913-83 © G. M. Edwards. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 54)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016