logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deisyfwn am dy fendith fawr

Deisyfwn am dy fendith fawr
yn awr i’r ddau a unwyd,
bydd di, yr Hollalluog Dduw,
yn llyw i serch eu bywyd.

Ar eu hadduned rho dy sêl
ac arddel eu hymrwymiad,
ac anfon di y gawod wlith
yn fendith ar eu cariad.

Arhosed haul dy gariad mwy
ar fodrwy eu cyfamod,
a thywys hwy yng ngolau’r ffydd
bob dydd i nawdd dy gysgod.

O estyn di dy law i’r ddau
ar lwybrau cymhleth bywyd
ac aros yn dy ddwyfol rin
yn Frenin ar eu haelwyd.

T. R. JONES  © E. M. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 637)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016