logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dechreuwch, weision Duw

Dechreuwch, weision Duw,
y gân ddiddarfod, bêr;
datgenwch enw mawr a gwaith
a gras anhraethol Nêr.

Am ei ffyddlondeb mawr
dyrchefwch glod i’r nen:
yr hwn a roes addewid lawn
yw’r hwn a’i dwg i ben.

Mae gair ei ras mor gryf
â’r gair a wnaeth y nef;
y llais sy’n treiglo’r sêr di-rif
roes yr addewid gref.

Ar yr addewid hon
anturia, f’enaid drud;
hi ddwg i’th ran drysorau’r groes
mil mwy eu gwerth na’r byd.

ISAAC WATTS (Begin, my tongue, some heavenly theme), 1674-1748 cyf. GOMER, 1773-1825

(Caneuon Ffydd 162; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 09)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015