logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dduw Iôr ein tadau, nefol Dad

Dduw Iôr ein tadau, nefol Dad,
O achub a sancteiddia’n gwlad;
cysegra’n dyheadau ni
i geisio dy ogoniant di.

Ein tŵr a’n tarian ar ein taith
a’n t’wysog fuost oesoedd maith;
rhoist yn ein calon ddwyfol dân
ac yn ein genau nefol gân.

O atal rwysg ein gwamal fryd
a gwared ni rhag twyll y byd;
â’th ras, ein calon cadarnha,
a dyro brawf o’th ‘wyllys da.

O Ysbryd Glân, na foed i ni
oleuni ond d’oleuni di,
ac arwain bobloedd yn gytûn
i ogoneddu Mab y Dyn.

O na chaem weld y rhyfedd ddydd
i ninnau fynd o’n rhwymau’n rhydd
ac uno gyda nef a llawr
ym moliant ei ddyrchafael mawr.

J. T. JOB, 1867-1938

(Caneuon Ffydd 815)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015