logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ddiddanydd anfonedig nef

Ddiddanydd anfonedig nef,
fendigaid Ysbryd Glân,
hiraethwn am yr awel gref
a’r tafod tân.

Erglyw ein herfyniadau prudd
am brofi o’th rad yn llawn,
gwêl a oes ynom bechod cudd
ar ffordd dy ddawn.

Cyfranna i’n heneidiau trist
orfoledd meibion Duw,
a dangos inni olud Crist
yn fodd i fyw.

Am wanwyn Duw dros anial gwyw
dynolryw deffro’n llef,
a dwg yn fuan iawn i’n clyw
y sŵn o’r nef.

Rho’r hyder anorchfygol gynt
ddilynai’r tafod tân;
chwyth dros y byd fel nerthol wynt,
O Ysbryd Glân.

GWILI, 1872-1936

(Caneuon Ffydd 593)

PowerPoint