logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Daw’r cwbl oll i ben

Daw’r cwbl oll i ben –
Yr holl alar, a’r poen a’r holl ddagrau.
Disgwyl am y dydd
Pan fyddi’n symud
I ddwyn i ben y dioddef sydd.

Tyrd, Arglwydd i’n hiacháu ni,
I’n hiacháu ni.
Tyrd, Arglwydd i’n hiacháu ni,
I’n hiacháu ni.

D’oleuni di a ddaw –
Disgleiria, a daw dydd newydd.
D’addewidion clir
A gyflawnir
Ac fe ddont yn realiti.

Cawn weld y dydd –
Ddydd gogoneddus!
Doi i deyrnas drosom ni,
Drosom ni.

Ian Mizen ac Andy Pressdee: We’ve got to see an end (waiting for the healing),
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1995 Brown Bear Music

(Grym Mawl 2: 146)

PowerPoint