logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dawel Nos

Dawel nos, ddwyfol nos!
Gwenu mae seren dlos;
Yntau’n awr, y Mab di-nam,
Sydd ynghwsg ar lin ei fam,
Draw, mewn hyfryd hedd,
Draw, mewn hyfryd hedd.

Dawel nos, ddwyfol nos!
O! mor fud gwaun a rhos;
Ond i glyw bugeiliaid glân
Daw ryw bêr angylaidd gân,
‘Heddiw ganwyd Crist:
Heddiw ganwyd Crist.’

Dawel nos, ddwyfol nos!
Blentyn nef – O! mor dlos
Oedd y wên a roddaist ti
Gynt o’r preseb arnom ni,
Draw ym Methlem dref:
Draw ym Methlem dref:

Joseph Mohr, 1792-1848, cyf. J. T. Jones, Porthmadog  © Dafydd F. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016