logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Darfu noddfa mewn creadur

Darfu noddfa mewn creadur,
Rhaid cael noddfa’n nes i’r nef;
Nid oes gadarn le im orffwys
Fythol ond ei fynwes Ef;
Dyma’r unig
Fan caiff f’enaid wir iachâd.

Dan dy adain cedwir f’enaid,
Dan dy adain byddaf byw,
Dan dy adain y gwaredir
Fi o’r beiau gwaetha’u rhyw;
‘Rwyt yn gysgod
Rhag euogrwydd yn ei rym.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint