logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dan gysgod croes yr Iesu

Dan gysgod croes yr Iesu
Mae lle i wella ‘nghlwyf;
Rhyfeddol yw’r drugaredd
A’m galwodd fel yr wyf.
Mae’r dwylo ddylai’m gwrthod
 chlwyfau sy’n gwahodd;
Dan gysgod croes yr Iesu
Mae f’enaid wrth ei fodd.

Dan gysgod croes yr Iesu
Rwy’n un â’i deulu Ef;
Pob un fu’n ceisio’r hunan, nawr
Sy’n un trwy ras y nef.
Sut fedrwn waradwyddo’r
Rhai garodd Iesu gwiw?
Dan gysgod croes yr Iesu
Gwêl y plant a alwodd Duw.

Dan gysgod croes yr Iesu –
Y daith at goron nef –
Cawn obaith ei addewid
Ar ffordd ei lwybrau Ef.
Ei briodferch perffaith fyddwn –
Gorfoledd cyflawn yw!
Dan gysgod croes yr Iesu
Yn llawen byddwn byw.

Beneath The Cross Of Jesus: Keith & Kristyn Getty, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M Job
© yn y cyfieithiad hwn 2005 Thankyou Music/gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 11, 2015