logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dan dy fendith wrth ymadael

Dan dy fendith wrth ymadael
y dymunem, Arglwydd, fod;
llanw’n calon ni â’th gariad
a’n geneuau ni â’th glod:
dy dangnefedd
dyro inni yn barhaus.

Am Efengyl gras a’i breintiau
rhoddwn ddiolch byth i ti;
boed i waith dy Ysbryd Sanctaidd
lwyddo fwyfwy ynom ni;
i’r gwirionedd
gwna ni’n ffyddlon tra bôm byw.

JOHN FAWCETT, 1740-1817 cyf. WILLIAM GRIFFITHS, 1777-1825

(Caneuon Ffydd 22)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan