logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dal fi’n nes atat ti bob dydd

Dal fi’n nes atat ti bob dydd,
N’ad i’m cariad i oeri byth.
Cadw ‘meddwl i ar y gwir,
Cadw’m llygaid i arnat ti.

Trwy bob llwyddiant a llawenhau,
Trwy bob methiant a phob tristáu
Bydd di’n obaith sydd yn parhau.
Eiddot ti fy nghalon i.

Mae dy freichiau o’m cwmpas i
Yn fy ngwarchod i nos a dydd.
Ond cael clywed dy eiriau di,
Fe ddaw hedd i ‘nghalon i.

‘Does ‘na neb, Arglwydd, fel Tydi;
Trwy dy gariad a’th ofal di,
Daw y nefoedd i ‘mywyd i.
O Dduw, rwy’n dy garu di.

Cyfieithiad Awdurdodedig :Casi Jones, Hold me closer (May I never loose sight), Noel a Tricia Richards
© 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 49)

PowerPoint