logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dal fi’n agos at yr Iesu

Dal fi’n agos at yr Iesu
er i hyn fod dan y groes;
tra bwy’n byw ym myd y pechu
canlyn dani bura f’oes;
os daw gofid a thywyllwch,
rho im argyhoeddiad llwyr –
wedi’r nos a’r loes a’r trallod,
bydd goleuni yn yr hwyr.

Dysg im edrych i’r gorffennol,
hyn a ladd fy ofnau i gyd:
dy ddaioni a’th drugaredd
a’m canlynant drwy y byd;
os daw deigryn, storm a chwmwl,
gwena drwyddynt oll yn llwyr;
enfys Duw sy’n para i ddatgan
bydd goleuni yn yr hwyr.

Tywys di fi i’r dyfodol
er na welaf fi ond cam;
cariad Duw fydd eto’n arwain,
cariad mwy na chariad mam.
Mae Calfaria’n profi digon,
saint ac engyl byth a’i gŵyr;
er i’r groes fod yn y llwybyr
bydd goleuni yn yr hwyr.

E. HERBER EVANS, 1836-96

(Caneuon Ffydd 726)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015