logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Daeth eto ŵyl y geni

Daeth eto ŵyl y geni –
y ddôl, y pant a’r bryn
y’n bloeddio mewn llawenydd
y rhyfedd newydd hyn:
ddistyllu o holl sylwedd
y cread i ffurf dyn,
a Mair yng ngwewyr esgor
ddug Dduw a’i blant yn un.

Daeth eto ŵyl y geni –
a chludwn at y tŷ
fel doethion gynt, â’u cistiau,
fwriadau gorau’n llu;
ond denir ni fel hwythau
gan rwysg Caersalem dref,
ein dallu wna’n anochel
i’w goeth ogoniant ef.

Daeth eto ŵyl y geni –
ond holl rialtwch byd
sy’n boddi sain yr engyl
a drysu ffordd y crud;
na foed ein clustiau’n fyddar
i gri’r bachgennyn mad:
O Dduw, rho olwg newydd
ar wyrth yr ymwacâd.

HYWEL M. GRIFFITHS © Siân Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 443)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016