logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Daeth Crist i’n plith, O llawenhawn

Daeth Crist i’n plith, O llawenhawn,
a deued pawb ynghyd
i’w dderbyn a’i gydnabod ef
yn Geidwad i’r holl fyd,
yn Geidwad i’r holl fyd,
yn Geidwad, yn Geidwad i’r holl fyd.

Aed y newyddion da ar led,
awr gorfoleddu yw;
seinied pawb drwy’r ddaear gron
eu cân o fawl i Dduw,
eu cân o fawl i Dduw,
eu cân, eu cân o fawl i Dduw.

Boed ysbryd gwell rhwng gwlad a gwlad
heb ryfel, dig na chas,
a phlyged holl arweinwyr byd
i’w dderbyn ef a’i ras,
i’w dderbyn ef a’i ras,
i’w dderbyn, i’w dderbyn ef a’i ras.

Ein nerth a’n gobaith oll bob awr
yw ei Efengyl ef:
daeth Crist i’n plith, O llawenhawn,
Hosanna iddo ef,
Hosanna iddo ef,
Hosanna, Hosanna iddo ef!

J. R. JONES, Aberystwyth © Rosina Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 479)

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016