logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Daeth cariad lawr i’m hachub i

Pan rwy’n galw rwyt ti yn ateb
Pan rwy’n syrthio, rwyt yna gerllaw
Do achubaist fi o dywyllwch
I fyw bywyd o obaith a mawl.

Trwy ras rwy’n rhydd,
Achubaist fi,
Rhof fy hun i ti.

Ei gariad rydd wefr sydd uwchlaw pob dim
Ei obaith sy’n gryfach na phopeth i mi
Roeddwn ar goll, bellach rwy’n byw ‘not ti.

Ti, fy Nuw, wyt yr un bob amser,
Does run Sylfaen mor gadarn a chref.
Canaf fawl wrth addoli fy Arglwydd
Sydd yn eistedd ar orsedd y Nef.

Daeth cariad lawr i’m hachub i
O diolch! Dwi’n diolch!
Lle roeddwn ddall, nawr rwy’n gweld yn glir
Dy weld di, dy weld di.

Love Came Down: Ben Cantelon, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
© yn y cyfieithiad hwn 2006 Thankyou Music/gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com

PowerPoint youtube
  • Gwenda Jenkins,
  • June 18, 2015