logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dad yn y nefoedd

Dad yn y nefoedd,
Bydded i dy enw di
Gael clod drwy’r byd i gyd.
Dad yn y nefoedd,
Deled nawr dy deyrnas
A gwneler dy ewyllys di.

Wnei di f’arwain i gyda’th olau Sanctaidd?
Rwyf am roi i ti bob awr sydd o’m bywyd,
A sychedu wnaf o ddyfnderoedd f’enaid.
Fe’th addolaf di o’r awr hon hyd byth.

Dad yn y nefoedd,
Pwy ond ti all faddau pob
Rhyw fai a’n gwneud yn bur.
Dad yn y nefoedd,
Gad i’n ddod yn ufudd
At yr Oen a’i gariad cu.

Heavenly Father (Prayer song): Ian Mizeb ac Andy Pressdee cyfieithiad awdurdodedig: Natalie Drury
Hawlfraint © 1995 Brown Bear Music

(Grym mawl 2: 47)

PowerPoint