logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dacw’r hyfryd fan caf drigo

Dacw’r hyfryd fan caf drigo,
Gwn caf drigo cyn bo hir,
Dros y bryniau oer tymhestlog,
Yn y sanctaidd hyfryd dir:
Gwela’n awr fore wawr
Glir, o dragwyddoldeb mawr.

Ni gawn yno weld a garwn,
Mewn gogoniant llawer mwy
Nag ei gwelsom ar y croesbren
Dan ei farwol ddwyfol glwy’;
Lluoedd mawr sydd yn awr
Yn ei garu uwch y llawr.

Ni gawn weld a’i carodd yma
Yn y man yr ochr draw,
Oll yn gwledda ar ei gariad,
A’u telynau yn eu llaw:
Oll yn un, a chytûn,
Molant Dduwdod yn y dyn.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 437)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015