logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dacw’r ardal, dacw’r hafan

Dacw’r ardal, dacw’r hafan,
Dacw’r nefol hyfryd wlad,
Dacw’r llwybyr pur yn amlwg,
‘R awron tua thŷ fy Nhad;
Y mae hiraeth yn fy nghalon,
Am fod heddiw draw yn nhref,
Gyda’r myrdd sy’n canu’r anthem,
Anthem cariad “Iddo Ef”.

Mae fy hwyliau heddiw’n chware’n,
Llawen yn yr awel bur,
Ac ‘r wy’n clywed sŵn caniadau,
Peraidd paradwysaidd dir;
Ffarwel haul a lloer, a thrysor,
Ffarwel ddaear, ffarwel ddyn;
Nid oes dim o dan yr wybren,
Sydd yn fawr ond Duw ei Hun.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 572)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 9, 2015