logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes

Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes
i garu’r hwn fu ar y groes,
mae mwy o bleser yn ei waith
na dim a fedd y ddaear faith.

Cael bod yn fore dan yr iau
sydd ganmil gwell na phleser gau,
mae ffyrdd doethineb oll i gyd
yn gysur ac yn hedd o hyd.

O boed im dreullo yn ddi-goll
o dan iau Crist fy mebyd oll;
mae’r hwn a’m prynodd ar y groes
yn deilwng o bob awr o’m hoes.

PEDR FARDD, 1775-1845

(Caneuon Ffydd 692)

PowerPoint