logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyfodwyd

Pennill 1
Dy gorff di a dorrwyd, dy gorff di a gurwyd
Brenin y nefoedd ar y groes
Cês dy anghofio, Cefais dy adael
Hyfryd Waredwr yn y bedd

Rhag-Gytgan
Yno, cariaist di holl bwysau y byd
Yn rhoi’r cyfan ar y groes
Ynghudd mewn twyllwch ac unigrwydd y bedd
Ond y maen a dreiglwyd nawr

Cytgan
Crist gyfodwyd, angau drechwyd
Grist, gorchfygaist di
Fe orffennwyd, Haleliwia
Crist a ddaw yn ôl

Pennill 2
 nerth a gogoniant, pob enaid mewn rhyddid
Brenin y nefoedd nawr yn fyw
Bythol bencampwr, anthem dragwyddol
Hyfryd Waredwr godwyd fry

Cytgan
Crist gyfodwyd, angau drechwyd
Grist, gorchfygaist di
Fe orffennwyd, Haleliwia
Crist a ddaw yn ôl (x2)

Pont
Moliannwn Iôr gogoniant
Fe waeddwn Sanctaidd yw yr Iôr
Yn fythol mae yn nerthol
Fe waeddwn Sanctaidd yw yr Iôr
Fe waeddwn Sanctaidd yw yr Iôr

Rhag-gytgan
Yno cariaist di holl bwysau y byd
Yn rhoi’r cyfan ar y groes
Ynghudd mewn twyllwch ac unigrwydd y bedd
Ond y maen a dreiglwyd nawr

Cytgan
Crist gyfodwyd, angau drechwyd
Grist, gorchfygaist di
Fe orffennwyd, Haleliwia
Crist a ddaw yn ôl

Cyfodwyd
Risen (Nick Herbert | Tim Hughes | Tom Smith)
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones
© 2018 Capitol CMG Genesis (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Safe & Sound Music (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Integrity Music Europe (Gwein. gan Integrity Music)
Soul Survivor (Gwein. gan Integrity Music)
Thankyou Music (Gwein. gan Integrity Music)
Tim Hughes Designee (Gwein. gan Integrity Music

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021