logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyfodi wnaeth Tywysog hedd

Haleliwia! Haleliwia! Haleliwia!

Cyfodi wnaeth Tywysog hedd,
gorchfygodd uffern fawr a’r bedd,
esgynnodd i’w dragwyddol sedd:
Haleliwia!

Agorwyd disglair byrth y nef,
fe glywir gorfoleddus lef
fel sŵn y môr neu daran gref:
Haleliwia!

Y fuddugoliaeth fawr a gaed,
daw’r nef a’r ddaear at ei draed,
a chenir mwy drwy rin y gwaed:
Haleliwia!

Esgynnodd Crist i entrych nef,
pob glin a blyg i’w enw ef,
dyrchafwn orfoleddus lef:
Haleliwia!

Gogoniant fo ar uchel gân
drwy nef a daear heb wahân
i’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân:
Haleliwia!

GLANMOR, 1811-91

(Caneuon Ffydd 560)

PowerPoint