logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyfarwydda f’enaid, Arglwydd

Cyfarwydda f’enaid, Arglwydd,
pan wy’n teithio ‘mlaen ar hyd
llwybrau culion, dyrys, anodd
sydd i’w cerdded yn y byd:
cnawd ac ysbryd yn rhyfela,
weithiau cariad, weithiau cas,
ton ar don sydd yn gorchuddio
egwyddorion nefol ras.

Weithiau torf yr ochor aswy,
weithiau torf yr ochor dde;
ffaelu deall p’un sy’n canlyn
hyfryd lwybrau Brenin ne’;
drysu mewn rhyw fyfyrdodau,
methu cael y gwir yn lân,
ymbalfalu wrthyf f’hunan
ac heb symud cam ymlaen.

Cul yw’r llwybyr imi gerdded,
is fy llaw mae dyfnder mawr,
ofn sydd arnaf yn fy nghalon
rhag i’m troed fyth lithro i lawr:
yn dy law y gallaf sefyll,
yn dy law y dof i’r lan,
yn dy law byth ni ddiffygiaf
er nad ydwyf fi ond gwan.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 737)

PowerPoint