logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw

Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw,
ni syfl o’i le, nid ie a nage yw;
cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith;
er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith.

Cyfamod rhad, o drefniad Un yn Dri,
hen air y llw a droes yn elw i ni;
mae’n ddigon cry’ i’n codi i fyny’n fyw,
ei rym o hyd yw holl gadernid Duw.

Cyfamod cry’, pwy ato ddyry ddim?
Nid byd na bedd all dorri’i ryfedd rym;
diysgog yw hen arfaeth Duw o hyd,
nid siglo mae fel gweinion bethau’r byd.

Er llithro i’r llaid a llygru defaid Duw
cyfamod sy i’w codi i fyny’n fyw,
a golchi i gyd eu holl aflendid hwy,
a’u dwyn o’r bedd heb ddim amhuredd mwy.

EDWARD JONES, 1761-1836

(Caneuon Ffydd 207)

PowerPoint