logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cydunwn oll i ganu’n awr

Cydunwn oll i ganu’n awr,
‘Cariad yw Duw!’
Daw sŵn y mawl o nef a llawr –
‘Cariad yw Duw!’
O purer ninnau fel trwy dân,
A seinied pawb y felys gân,
Yn bêr er mwyn yr Iesu glân,
‘Cariad yw Duw!’

O aed y geiriau led y byd,
‘Cariad yw Duw!’
Yng Nghrist fe gafwyd Prynwr drud,
‘Cariad yw Duw!’
Ei waed sy’n golchi’n beiau mawr;
Ei Ysbryd Ef dry’r nos yn wawr,
A llon y d’wed eneidiau’r llawr,
‘Cariad yw Duw!’

Mor ddedwydd yma yw ein stâd:
‘Cariad yw Duw!’
Ei addewidion sy’n fwynhad:
‘Cariad yw Duw!’
Efe yw’n Haul a’n Tarian gref,
Yn oriau’r nos ein Craig yw Ef,
Daw gyda ni ymhell o dref:
‘Cariad yw Duw!’

Yn Seion canwn eto gân,
‘Cariad yw Duw!’
Hon fydd y gainc yn ddiwahân,
‘Cariad yw Duw!’
Ar hyd yr oesau maith di-ri’
Yng nghôr y saint fe’i seinir hi,
Hon fydd ein cân felysaf ni,
‘Cariad yw Duw!’

Howard Kingsbury (Come let us all unite and sing), cyf. Syr T.H.Parry-Williams

(Grym Mawl 2: 19)

PowerPoint