logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyduned Seion lân

Cyduned Seion lân
mewn cân bereiddia’i blas
o fawl am drugareddau’r Iôn,
ei roddion ef a’i ras.

Ble gwelir cariad fel
ei ryfedd gariad ef?
Ble bu cyffelyb iddo erioed?
Rhyfeddod nef y nef!

Fe’n carodd cyn ein bod,
a’i briod Fab a roes,
yn ôl amodau hen y llw,
i farw ar y groes.

Gwnaeth Iesu berffaith Iawn
brynhawn ar Galfarî:
yn ei gyfiawnder pur di-lyth
mae noddfa byth i ni.

IAGO TRICHRUG, 1779-1844

(Caneuon Ffydd 163; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 01)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015