logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cydganwn foliant rhwydd

Cydganwn foliant rhwydd
i’n Harglwydd, gweddus yw;
a nerth ein hiechyd llawenhawn,
mawr ydyw dawn ein Duw.

O deuwn oll ynghyd
yn unfryd ger ei fron,
offrymwn iddo ddiolch clau
mewn salmau llafar, llon.

Cyduned tonnau’r môr
eu mawl i’n Iôr o hyd,
rhoed y ddaear fawr a’i phlant
ogoniant iddo i gyd.

O plygwn bawb ei lin
o flaen ein Brenin mawr;
Addolwn ef, ein dyled yw,
‘rŷm arno’n byw bob awr.

GWILYM HIRAETHOG, 1802-83

(Caneuon Ffydd 1)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015