logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyd-foliannwn Di, O Arglwydd

Tôn: Lyons (677 Caneuon Ffydd)

Moliannu Duw

Cyd-foliannwn Di, O Arglwydd,
am bob cennad fu’n ein gwlad
yn lledaenu dy efengyl
ac ehangu dy fawrhad;
trwy eu cariad a’u hymroddiad
clywodd Cymry am dy ras,
ac am Iesu’r un ddaeth atom
i’n gwas’naethu ni fel Gwas.

Cyd-weddïwn arnat, Arglwydd
heddiw, pan ddirmygir Crist,
a phan ddengys trais a gormes
effaith oes y cilio trist;
fe gei di dy anwybyddu
pan roi’r grym yn nwylo dyn;
tyn ni’n ôl o’n crwydro’r awron
at dy gariad pur dy hun.

Cyd-ddiolchwn iti, Arglwydd
am genhadon ddyddiau fu,
ond wrth ddiolch, gwna ni’n gludwyr
neges gras dy galon di;
rho i Gymry eto archwaeth
at d’efengyl Di, O Dad,
nes i’th hedd a’th gariad tadol
lywodraethu yn ein gwlad.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint