logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion

Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion,
am yr ysguboriau llawn:
ti sy’n nerthu dwylo dynion
a rhoi grym i gasglu’r grawn;
am i ti ein cofio beunydd
a chyflawni eto’r wyrth,
yma canwn am y cynnydd
a rhown ddiolch yn y pyrth.

Byth ni phaid dy drugareddau,
a’th ddaioni sydd yr un;
pwy all gofio dy holl ddoniau
ac amgyffred dyled dyn?
Am i ti, Gynhaliwr grasol,
gofio amdanom, lwch y llawr,
plygwn heddiw’n edifeiriol
ger dy fron, O Arglwydd mawr.

Diolch iti am dy Eglwys
a’i phroffwydi ymhob oes,
gyda’i ffydd a’i sêl diorffwys
yn y grym sy ‘mhren y groes:
ti fu yma’n arddel geiriau
y rhai hyn fu’n hau yr had,
arddel eto drwom ninnau
dy Efengyl, nefol Dad.

D. GWYN EVANS, 1914-95 © G. I. Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd:95)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan