Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word)
Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw y Tad, drwy ffydd,
Creawdwr hollalluog a greodd bob peth sydd;
Rwy’n credu ac ymddiried yn Iesu Grist, Mab Duw,
Fu farw ar groes drosom ni a chodi nôl yn fyw.
Rwy’n credu ac ymddiried yn Nuw yr Ysbryd Glân
Sy’n rhoi i ninnau fywyd a’n harwain ni ymlaen,
Rwy’n credu ac ymddiried mai Tri yn Un yw Duw,
I’r Tad, i’r Mab, i’r Ysbryd Glân rhof glod tra byddaf fyw.
Geiriau: Credo’r Bedydd, addas. Cass Meurig
Tôn: Ffarwel i Blwy Llangower (tradd)