logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Colled pob blodeuyn hyfryd

Colled pob blodeuyn hyfryd
Ei holl degwch is y rhod;
Doed salwineb ar wynebau
Pob creadur sydd yn bod;
Tegwch byd fydd ynghyd
Oll yn wyneb Prynwr drud.

Pe diffoddai’r heulwen ddisglair
Yn yr awyr denau las,
A phe treuliai’r sêr y fflamau
Ynddynt sydd o dân i maes,
Mi gaf fyw gyda’m Duw
Mewn disgleirdeb heb ei ryw.

Mi gaf fod o flaen yr orsedd,
Mi gaf ganu’r anthem bur,
Wedi darfod sôn am ddaear
Sôn am foroedd, sôn am dir;
Dwyfol loes, angau’r Groes
Fydd y canu ddydd a nos.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 447)

PowerPoint