logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cofia’n gwlad, Benllywydd tirion

Cofia’n gwlad, Benllywydd tirion,
dy gyfiawnder fyddo’i grym:
cadw hi rhag llid gelynion,
rhag ei beiau’n fwy na dim:
rhag pob brad, nefol Dad,
taena d’adain dros ein gwlad.

Yma mae beddrodau’n tadau,
yma mae ein plant yn byw;
boed pob aelwyd dan dy wenau,
a phob teulu’n deulu Duw:
rhag pob brad, nefol Dad,
cadw di gartrefi’n gwlad.

Gwna’n Sabothau’n ddyddiau’r nefoedd
yng ngoleuni d’eiriau glân;
dyro’r gwlith i’n cymanfaoedd,
gwna ein crefydd fel ein cân:
nefol Dad, boed mawrhad
ar d’Efengyl yn ein gwlad.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 827)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 30, 2015