logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cofia, f’enaid, cyn it’ dreulio

Cofia, f’enaid, cyn it’ dreulio
D’oriau gwerthfawr yn y byd,
Cyn ehedeg draw oddi yma,
P’un a gest ti’r trysor drud;
Yn mha ardal bydd fy llety?
Fath pryd hynny fydd fy ngwedd?
P’un ai llawen, ai cystuddiol
Fyddi y tu draw i’r bedd?

Mae nghyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd maith o’m blaen,
A fu’n mynd drwy ddyffryn Baca
Gyda mi tua Salem lân:
Yn y dyffryn tywyll, garw,
Ffydd i’r lan a’u daliodd hwy;
Mae’r addewid lawn i minnau –
Pam yr ofna f’enaid mwy?

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 608)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015