logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Cododd Iesu! Haleliwia, haleliwia!

Cododd Iesu! Haleliwia, haleliwia!
Cododd Iesu! Cododd yn wir, haleliwia!

Cariad a ddaeth,
Gorchfygu a wnaeth,
Collodd marwolaeth ei fri.
O’r bedd yn fyw
Am byth gyda Duw,
Iesu ein Harglwydd a’n Rhi.

Arglwydd yw Ef
Dros bechod a’r bedd;
Satan a syrth wrth ei draed!
Ein Harglwydd sydd fawr,
Pob glin blyga’i lawr –
Drwy Iesu y goron a gaed.

“Arglwydd yw Ef!”
Ymunwch â’n llef,
Bloeddiwch ei enw mewn bri.
Llawen yw’r iaith,
Addoliad yw’r gwaith,
Offrwm o fawl roddwn ni.

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Catrin Alun, (Christ is risen, Chris Rolinson)
© 1989 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 20)

PowerPoint