logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clywch lu’r nef yn seinio’n un

Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy’n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â’r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
a disgleirdeb ŵyneb Duw:
cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
gwnaeth ei babell gyda dyn:
wele Dduwdod yn y cnawd,
dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
Iesu, ein Emaniwel!
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Henffych, T’wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

CHARLES WESLEY, 1707-88 (Hark the Herald angels sing), cyf. 1 PEDR FARDD, 1775-1845
2 ANAD. 3 ELIS WYN O WYRFAI, 1827-95

(Caneuon Ffydd 452)

PowerPoint